#plant iach am £20
A ydych chi'n chwilio am syniadau ar gyfer prydau bwyd maethlon i'r teulu, ond ar gyllideb dynn? Yna ymunwch â her #PlantIachAm£20!
Mae'n bwysig bod plant yn bwyta cymysgedd o protein, carbohydrad a brasterau trwy gydol y dydd. Mae gan bob un o rhain rolau hanfodol wrth gynnal iechyd a darparu egni i'w corff a'u hymennydd. Mae canllawiau dietegol yn ddefnyddiol, ond rhaid eu bod yn gallu cael eu rhoi ar waith yn y byd go iawn. Gall hyn fod yn heriol gan ei fod yn gofyn am gynllunio a chyllidebu.
Felly rydyn ni wedi llunio rhai cynlluniau prydau ymarferol, rhestrau siopa cost isel a ryseitiau cyflym, hawdd ac iach i'ch rhoi ar ben ffordd, ond peidiwch â bod ofn arbrofi - y prif beth yw rhoi cynnig arni a bod yn greadigol! (pheidiwch â phoeni, rydym wedi cynnwys danteithion melys hefyd!)